1 John 3

1Meddyliwch mor aruthrol fawr ydy'r cariad mae'r Tad wedi ei ddangos aton ni! Dŷn ni'n cael ein galw'n blant Duw! Ac mae'n berffaith wir! Y rheswm pam dydy'r byd ddim yn derbyn hynny ydy eu bod nhw ddim wedi nabod y Meseia chwaith. a 2Ffrindiau annwyl, dŷn ni'n blant Duw nawr! Dŷn ni ddim yn gallu dechrau dychmygu sut fyddwn ni yn y byd sydd i ddod! Ond dŷn ni'n gwybod gymaint â hyn: pan fydd Iesu'n dod yn ôl i'r golwg byddwn ni'n debyg iddo. Cawn ei weld e yn ei holl ysblander! 3Mae pawb sydd â'r gobaith hwn ganddyn nhw yn eu cadw eu hunain yn lân, fel mae'r Meseia ei hun yn berffaith lân.

4Mae pawb sy'n pechu yn torri'r Gyfraith; yn wir, gwneud beth sy'n groes i Gyfraith Duw ydy pechod. 5Ond dych chi'n gwybod fod Iesu wedi dod er mwyn cymryd ein pechodau ni i ffwrdd. Does dim pechod o gwbl ynddo fe, b 6felly does neb sy'n byw mewn perthynas ag e yn dal ati i bechu. Dydy'r rhai sy'n dal ati i bechu ddim wedi ei ddeall na'i nabod e.

7Blant annwyl, peidiwch gadael i unrhyw un eich camarwain chi. Mae rhywun sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dangos ei fod yn gyfiawn, yn union fel y mae'r Meseia yn gyfiawn. 8Mae'r rhai sy'n mynnu pechu yn dod o'r diafol. Dyna mae'r diafol wedi ei wneud o'r dechrau – pechu! Ond y rheswm pam ddaeth Mab Duw i'r byd oedd i ddinistrio gwaith y diafol. 9Dydy'r rhai sydd wedi eu geni'n blant i Dduw ddim yn dal ati i bechu, am fod rhywbeth o natur Duw wedi ei blannu ynddyn nhw fel hedyn. Dyn nhw ddim yn gallu dal ati i bechu am eu bod nhw wedi cael eu geni'n blant i Dduw. 10Felly mae'n gwbl amlwg pwy sy'n blant i Dduw a phwy sy'n blant i'r diafol: Dydy'r bobl hynny sydd ddim yn gwneud beth sy'n iawn ddim yn blant i Dduw – na chwaith y bobl hynny sydd ddim yn caru'r brodyr a'r chwiorydd.

Carwch eich gilydd

11Dyma'r neges dych chi wedi ei chlywed o'r dechrau cyntaf: Fod yn rhaid i ni garu'n gilydd. c 12Rhaid i ni beidio bod fel Cain, oedd yn perthyn i'r un drwg ac a laddodd ei frawd. A pham wnaeth e ladd ei frawd? Am fod Cain wedi gwneud drwg, a'i frawd wedi gwneud y peth iawn. d 13Felly, frodyr a chwiorydd, peidiwch synnu os ydy'r byd yn eich casáu chi!

14Dŷn ni'n caru'n gilydd, ac felly'n gwybod ein bod ni wedi symud o fod yn farw'n ysbrydol i fod yn fyw'n ysbrydol. Mae unrhyw un sydd ddim yn dangos cariad felly yn dal yn farw'n ysbrydol. 15Mae unrhyw un sy'n casáu brawd neu chwaer yn llofrudd, a does gan lofrudd ddim bywyd tragwyddol.

16Dyma sut dŷn ni'n gwybod beth ydy cariad go iawn: Rhoddodd Iesu, y Meseia, ei fywyd yn aberth troson ni. Felly dylen ni aberthu'n hunain dros ein cyd-Gristnogion. 17Os oes gan rywun ddigon o arian ac eiddo, ac yn gweld fod brawd neu chwaer mewn angen, ac eto'n dewis gwneud dim byd i'w helpu nhw, sut allwch chi ddweud fod cariad Duw yn rhywun felly? 18Blant annwyl, peidiwch dim ond siarad am gariad, gwnewch rywbeth i ddangos eich cariad! 19Dim ond felly mae bod yn siŵr ein bod ni'n perthyn i'r gwir. Dyna'r unig ffordd i gael tawelwch meddwl pan fyddwn ni'n sefyll o flaen Duw, 20hyd yn oed os ydyn ni'n teimlo'n euog a'r gydwybod yn ein condemnio ni. Cofiwch, mae Duw uwchlaw ein cydwybod ni, ac mae e'n gwybod am bob dim.

21Ffrindiau annwyl, os ydy'r gydwybod yn glir gallwn sefyll yn hyderus o flaen Duw. 22Gan ein bod yn ufudd iddo ac yn gwneud beth sy'n ei blesio, bydd yn rhoi i ni beth bynnag ofynnwn ni amdano. 23A dyma ei orchymyn e: ein bod ni i gredu yn enw ei Fab, Iesu y Meseia, a charu'n gilydd yn union fel y dwedodd wrthon ni. e 24Mae'r rhai sy'n ufudd iddo yn byw ynddo, ac mae ei fywyd e ynddyn nhw. A dŷn ni'n gwybod fod ei fywyd e ynon ni am ei fod e wedi rhoi'r Ysbryd i ni.

Copyright information for CYM